Sut i gyfrannu

From mediawiki.org
This page is a translated version of the page How to contribute and the translation is 96% complete.
Outdated translations are marked like this.


Mae cynnwys pob prosiect Wikimedia wedi'i ryddhau dan drwyddedau am ddim. Cewch ysgrifennu cod i gyrraedd, ailgymysgu a thyfu'r gronfa enfawr hon o wybodaeth am ddim. Dilynwch y canllawiau i gychwyn arni gyda'r API, sydd ar gael ar bob wici MediaWiki, ac APIs eraill am gynnwys a Wikidata. Mae ffynonellau data eraill ar gael hefyd, gan gynnwys dympiau XML a SQL.
Mae ein cod i gyd yn ffynhonnell agored ac am ddim. Gallwch ddewis prosiect, darparu darn a gosod tasg!

Mae prosiectau Wikimedia yn defnyddio ieithoedd amrywiol megis PHP a JavaScript yn MediaWiki a'i estyniadau, Lua (mewn Templedi), CSS/LESS (mewn crwyn ac yn y blaen), Objective-C, Swing a Java (mewn Apiau Symudol ac yn Kiwix), Python (yn Pywikibot) neu C++ (yn Huggle) neu C# (yn AWB). Crëwch fotiau i brosesu cynnwys a chadwch eich offer ar Toolforge. Haciwch ar apiau symudol neu ar raglenni i'r bwrdd gwaith. Neu helpwch Peiriannu Dibynadwyedd y Safle i gynnal ffurfweddiad y gweinydd.

Learn more at New Developers/Introduction to the Wikimedia Technical Ecosystem .
Profi
Helpwch i wella ansawdd ein prosiectau drwy brofi PHPUnit, profi porwyr awtomatig trwy Selenium ac Integreiddio Parhaus. Gwnewch eich adroddiad cyntaf am fỳg neu helpwch gydag adroddiadau cyfredol am fygiau.
Fel llysgennad technoleg, helpwch ddefnyddwyr eraill Wicimedia gyda phroblemau technegol, adroddwch Newyddion Technoleg i roi gwybod i ddefnyddwyr am yr hyn sy'n mynd i effeithio arnynt ac ymunwch â grŵp y llysgenhadon a'r rhestr bostio i weithredu fel pont rhwng y datblygwyr a'ch wici lleol.
Gall ysgrifenwyr Saesneg wella dogfennau MediaWiki, tudalennau cymorth eraill ac unrhyw rhan o'r wefan hon, mewn gwirionedd.
Os ydych chi'n rhugl mewn iaith arall nad yw'n Saesneg, gallwch ymuno yn yr ymdrech i gyfieithu'r wefan hon a meddalwedd MediaWiki.
Helpwch ddefnyddwyr a datblygwyr sy'n chwilio am atebion wrth y ddeg gymorth neu sianeli cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol MediaWiki.
Helpwch i roi egwyddorion cynllunio Wikimedia ar waith mewn prosiectau sy'n chwilio am adborth UX.
Gallwch gyfarfod ag aelodau eraill o'r gymuned ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Canllawiau i'ch arwain trwy dechnolegau MediaWiki and Wikimedia.

Mwy o wybodaeth ddefnyddiol

Cyfathrebu

  • Mae sawl ffordd y gallwch chi gysylltu â chymuned Wicimedia.
  • Gallwch ddilyn a rhannu newyddion Wikimedia ar eich rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol hefyd.
  • Gallwch danysgrifio i Newyddion Technoleg er mwyn derbyn crynodeb wythnosol ar eich tudalen defnyddiwr o newidiadau i'r feddalwedd heb jargon technegol.

Golygu a thrafod ym MediaWiki

Os ydych chi heb ddefnyddio MediaWiki o'r blaen: