MediaWiki 1.20/wmf1/cy
Dyma grynodeb o erthygl a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar flog technegol Wikimedia. Gallwch danysgrifio i ffrwd RSS y blog technegol er mwyn derbyn gwybodaeth am gyhoeddiadau tebyg.
Gosod MediaWiki 1.20wmf1 ar wefannau Wicifryngau[edit]
Ar hyn o bryd, mae'r fersiwn ddiweddaraf o MediaWiki (o'r enw "1.20wmf1), y feddalwedd sy'n gyrru Wicipedia a'i chwaer-brosiectau, yn cael ei osod ar holl wefannau Wicifryngau, cam wrth gam.
Dechreuom ar y broses ar 10 Ebrill a byddwn yn parhau tan 25 Ebrill (gweler y map).
O hyn allan, bwriadwn osod y feddalwedd ddiweddaraf bob pythefnos. Y gobaith yw y bydd hyn yn lleihau anghyfleustra a phroblemau posib, a'i wneud yn haws i adnabod achosion problemau, oherwydd bydd y codau problemaidd posib wedi'u gosod yn llawer mwy diweddar.
Beth sy'n newydd[edit]
Cyfres o newidiadau cymharol fychan yw rhain, o'u cymharu a gosodiadau blaenorol.
The biggest improvement you'll notice is the new diff style.
Mae'r newidiadau eraill yn cynnwys:
- opsiwn newydd ar Special:PrefixIndex a Special:AllPages er mwyn cuddio ailgyfeiriadau;
- dolen ar frig y dudalen i neidio i'r ffenest olygu pan yn cael rhagolwg o newidiadau;
- teitl tudalen wedi'i labeli "Wrthi'n creu" yn lle "Golygu" pan yn creu tudalen newyd;
- dolen i'r golygiad perthnasol yn yr hysbysiadau ebost am newidiadau i dudalen sy'n cael ei gwylio;
- gwell integreiddiad (gyda'r gwahaniaethau a rhaglwytho) o'r neges rhagosodedig pan yn addasu neges rhyngwyneb yn y gofodenw MediaWiki.
Hefyd mae datblygwyr wedi gwella'r feddalwedd cuddiedig mewn nifer o ffyrdd. Mae rhestr fanylach o newidiadau ar gael, yn ogystal a'r rhestr gyflawn yn y nodiadau drafft a ryddhawyd.
Os dowch o hyd i broblem[edit]
Er gwaethaf ein hymdrechion, os dowch o hyd i broblem oherwydd yr uwchraddio, byddwn yn ceisio ei ddatrys cyn gynted a phosib. Gadewch i ni wybod am y problemau trwy ein traciwr bygiau, sef y man rydym yn edrych am adroddiadau am broblemau. Po gyflymaf y byddwch yn dweud wrthym am y broblem, cyflymaf oll y byddwn yn medru eu datrys.